Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2020
Amser:
14.01 -
17.14
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6335
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Huw Irranca-Davies AS Mark Isherwood AS Delyth Jewell AS Caroline Jones AS Jayne Bryant AS Dai Lloyd AS Lynne Neagle AS David Rees AS |
Tystion: |
Patience Bentu, Cyngor Hiliaeth Cymru Rocio Cifuentes, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Ruth Coombs, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Victoria Lloyd, Cyfarwyddwr Dylanwadu a Datblygu Rhaglenni, Age Cymru Hannah Wharf, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1
Croesawodd y Cadeirydd
aelodau’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau i’r cyfarfod.
1.2
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19,
cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y
cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y
cyhoedd.
1.3 Nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai'n gadael y cyfarfod am ryw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith: sesiwn dystiolaeth ar gydraddoldeb a hawliau dynol
2.1.Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn:
· Ruth Coombs, Pennaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru; a
· Hannah Wharf, Pennaeth Materion Allanol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru
3 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith: sesiwn dystiolaeth ar bobl hŷn
3.1. Croesawodd y Cadeirydd Jayne Bryant AS, Dai Lloyd AS, Lynne Neagle AS a David Rees AS, aelodau o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, i’r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.
3.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn:
· Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; a
· Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (xi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw yn ystod eitem 5 ac eitem 8
4.1. Cytunodd y Pwyllgor i’r cynnig.
5 Effaith COVID-19 ar bobl hŷn - trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3.
6 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith: sesiwn dystiolaeth ar grwpiau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn:
· Patience Bentu, Swyddog Cymorth Gweinyddiaeth a Pholisïau, Race Council Cymru
· Rocio Cifuentes, Prif Weithredwr Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru (EYST).
7 Papurau i’w nodi
7.1 Gohebiaeth gan Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip at Priti Patel AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref ynghylch COVID-19 a'i effaith ar Gymunedau BAME - 12 Mai 2020
7.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Jane Hutt AS at Priti Patel AS ynghylch COVID-19 a’i effaith ar Gymunedau BAME.
7.2 Gohebiaeth gan Chris Philp AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ynghylch Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 - 29 Mai 2020
7.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Chris Philp AS ynghylch Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016..
7.3 Gohebiaeth gan Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ynghylch ymgysylltu a’r ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar Flaenoriaethau Gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - 1 Mehefin 2020.
7.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ynghylch ymgysylltu a’r ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar Flaenoriaethau Gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.
7.4 Gohebiaeth gan Nick Ramsay AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, at Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ynglŷn ag adroddiadau statudol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol - 29 May 2020
7.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Nick Ramsay AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, at Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ynglŷn ag adroddiadau statudol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
7.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch cyfarfod y pwyllgor ar 15 Mai 2020 - 10 Mehefin 2020
7.5a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch cyfarfod y Pwyllgor ar 15 Mai 2020.
8 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith: trafod y dystiolaeth ymhellach
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 6.